Walisisch
dyma fy mlwch (heddwch)
fy nghymdogaeth (cenhadaeth), heb ymyl (llwybr cul) fy
y.m.o.s.o.d.i.a.d. (l.l.ê.n.-.l.a.d.r.a.d.)
dyma fy ardal (dal) heb daith (rhywogaeth) fy
n.g.h.a.n.l.y.n.i.a.d. (b.r.a.d.)
dyma fy siarad (lleoliad)
* * *
bwa’n dynn ar dannu clir
feiolinydd y cread
crythwr mawr troad yr hîn
ti, arweinydd yr eiliad
pa bryd daw’r hen gilotîn
yn syfrdan syn, fel tonnau hir
* * *
het fawr a roesom ar ein pennau
ond rhywfodd parhau
yn oer wnaeth ein cyrff ni
llyfodd ein tafodau
ymdonodd ein cusanau wrth llosgi
mynnwn fwy ‘nawr yn hy’ fel fflamau
(Translated by Meirion MacIntyre Huws)